IAN B. JONES

http://ianbjonesartist.com

Mae Ian B. Jones yn artist sy'n gweithio yn Wrecsam ac yn defnyddio olew, dyfrlliw, inc a chyfryngau cymysg. Mae tirwedd Cymru, ei phobl a'i hartistiaid yn ysbrydoli ei waith. Mae Ian wedi creu cyfres o ddarluniau cyflym o bensaernïaeth, pobl a thirweddau sy'n gwneud Cymru yn ‘Gymreig’. Meddai Ian; "Mae Cymru yn wlad sy’n llawn traddodiad y mae ei phobl wedi ei esblygu a’i siapio... Cymru heddiw. O'i ffermdai cerrig simsan i’w heglwysi a’i heglwysi cadeiriol pensaernïol perffaith, yn wir, mae gennym ni rywbeth unigryw a Chymreig yma."