CHLOE GIBB

http://www.chloegibb.blogspot.co.uk

Mae Chloe Gibb yn artist celfyddydau cain o Loegr sydd bellach yn byw yng ngogledd Cymru. Mae hi’n ymddiddori mewn peintio, ffotograffiaeth a darlunio. Mae Chloe wedi creu cyfres o gardiau tarot, pob un yn cynnwys ychydig eiriau o gyngor neu neges ddyrchafol i'r derbynnydd. Dywedodd Chloe fod gan ei darnau’r potensial i "dynnu sylw rhywun oddi ar anawsterau pob dydd, hyd yn oed os yw ond am eiliad, sef yr hyn sydd arnom ni ei angen weithiau".