ALAN WHITFIELD

www.alanwhitfield.com

Mae Alan Whitfield yn artist sydd ar hyn o bryd yn gweithio yng ngogledd Cymru. Mae ei ffotograffau yn dal golau a’i eiriau ysgrifenedig a llafar ei hun. Mae'n cael ei ysbrydoli gan sylwadau pob dydd ac yn cwestiynu'r byd o’n cwmpas. Meddai Alan “Nid un o Wrecsam ydw i, ond mae fy ngeiriau yn cyfleu fy nghariad am y dref a sut rydym ni wedi cysylltu”. Mae Alan wedi cynhyrchu ffon USB sy'n gweithredu fel capsiwl amser digidol ac amlgyfrwng. Mae’n cynnwys barddoniaeth, delweddau llonydd a fideos gan yr artist gyda cherddoriaeth gan gydweithfa celf ‘Ffloc’. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Alan wedi ei ysbrydoli gan Wrecsam a bwriad y darn yma yw caniatáu i'r dref ddal dychymyg y derbynnydd yn yr un modd.